Gwenllian Owen

Mae stori Gwenllian nid yn unig yn un o lwyddiant proffesiynol ond o fyw bywyd i’r eithaf, croesawu heriau, meithrin cymuned a chael llawenydd ym mhob antur, o fewn a thu hwnt i fyd busnes.

Dechreuodd gyrfa Gwenllian yn yr Awdurdod Lleol ac yna symudodd ymlaen i’r Cyngor Hyfforddiant a Menter - CELTEC, ELWa, Menter a Busnes, Menter Môn, Prifysgol Bangor, Cyngor Sir Ynys Môn ac yn fwyaf diweddar i M-Sparc. 

Mae hi wedi dal nifer o swyddi amrywiol o fewn y sefydliadau hyn ond wrth ymuno â CELTEC daeth o hyd i’w harbenigedd ar gyfer gweithio gyda busnesau, gan eu cefnogi trwy newid, twf a datblygiad pobl.

Uchafbwyntiau Gyrfa: Darganfu Gwenllian angerdd am weithio gyda busnesau, gan eu cefnogi trwy newid a thwf tra'u bod yn mynychu'r rhaglenni ym Mhrifysgol Bangor.  Bu’n arwain timau LEAD Cymru, ION Leadership a Rhaglen Twf Busnes 20Twenty ym Mhrifysgol Bangor fel Uwch Reolwr Rhaglen lle datblygodd, tyfodd a chyflwynodd y rhaglenni hynod boblogaidd ac effeithiol am dros 10 mlynedd.

Wrth bontio o’r Brifysgol i ail-ymuno â’r Sector Cyhoeddus, cofleidiodd Gwenllian rôl Rheolwr Economi Ymwelwyr Cyngor Sir Ynys Môn lle bu’n rheoli’n llwyddiannus y timau oedd yn gyfrifol am Dwristiaeth, Morwrol a Chefn Gwlad yr Ynys.  Nawr yn M-Sparc mae Gwenllian yn dod â’i chyfoeth o brofiad i rôl y Cydlynydd Arloesedd a Masnacheiddio, gan gefnogi busnesau yn y Parc Gwyddoniaeth a thu hwnt yn y rhanbarth.

Diddordebau Personol: Y tu hwnt i'w gweithgareddau proffesiynol, mae gan Gwenllian awch enfawr am fywyd.  Mae’n ffynnu ar heriau corfforol a meddyliol, ac wedi cwblhau 3 Her Ultra, Moonwalk Canser y Fron, amryw 10k, hanner marathon a digwyddiad Combat Soldier.   Mae’n ffynnu ar nofio dŵr oer ac yn cyfarfod â grŵp o ferched o’r un anian bob penwythnos i fwynhau’r rhyddid, y mwynhad a’r cyffro pur a ddaw yn sgil nofio dŵr oer iddynt.

Fel un o sylfaenwyr Adlais, côr cymysg lleol, mae Gwenllian yn cael balchder aruthrol yng nghyflawniadau’r côr.  Mae eu sain cytun yn adleisio’r gyfeillgarwch a’r angerdd a rennir am gerddoriaeth y mae Gwenllian yn eu mwynhau!

"I had the pleasure of working closely with Gwenllian on several ION leadership events and masterclasses and can confidently say that she is a true asset to any team. 

Gwenllian's support, experience and professionalism as Senior Programme Manager were evident in every aspect of her work”